Rhosybol

Croeso cynnes i chi i wefan Cyngor Cymuned Rhosybol

Os ydych angen trafod, unrhyw beth yn ymwneud a’r gwybodaeth ar y wefan, yna cysylltwch gyda’r Clerc

Rhosybol

Mae Rhosybol yn bentref oddeutu tair milltir o tref Amlwch, ac yn gorwedd i’r de o Mynydd Parys. Yn wreiddiol yn sefydlaid i weithwyr y diwydiant copar yn y mynydd.

Yn y pentref mae siop groser gyda swyddfa bost.Mae’r ysgol gymuned yn derbyn plant o oedran 3 – 11 gyda’r neuadd gymuned yn gwasanaethu’r ardal i bwyllgorau ac mudiadau lleol fel Yr Urdd, Cylch Merched ac y Ffermwyr Ifanc.

Wrth safle’r ysgol mae’r Cloc Gofeb. Hon yn Gofeb anghyffredin iawn, gan mae enwau’r rhai a ddisgynodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng 1914 at 1919 yn unig sydd wedi’u nodi arni.

Heddiw, yr unig addoldu yn cynnal gwasanaethau yn y pentref yw Capel y Gorslwyd. Mae Capel Bethania ac Yr Eglwys dal yn sefyll, ond wedi cau eu drysau ers rhai blynyddoedd.

Mae Capel Pengarnedd Rhosgoch a Chapel Parc ac Eglwys Llandyfrydog hefyd oddifewn y plwyf.